Canllawiau Ymgeisio

Bydd y penderfyniad i’ch galw am gyfweliad ai peidio yn dibynnu llawer ar y ffurflen gais a gwblheir gennych, felly mae’n bwysig eich bod yn cymryd eich amser i’w chwblhau mor gyflawn a chywir â phosibl. Dyma rai awgrymiadau.

Cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais.

Os nad ydych chi’n credu bod rhai rhannau’n berthnasol i chi, ysgrifennwch Amh (Amherthnasol) yn y bwlch a ddarparwyd ar gyfer eich ateb.

Cwblhewch y ffurflen mewn inc du neu teipiwch 

Bydd hyn yn sicrhau bod y ffurflen yn glir ac yn ddarllenadwy pan fyddwn ni’n ei llungopïo. Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth a ddarperir gennych yn glir, yn fanwl gywir, yn hawdd ei deall a’i bod hi’n berthnasol i’r swydd rydych chi’n ymgeisio amdani.

Y Swydd a Chi

Darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person. Rhowch enghreifftiau o sut mae eich profiad gwaith (gan gynnwys profiadau gwirfoddol, di-dâl, cymunedol a chartref/teuluol), a’ch gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau personol yn cyd-fynd â’r meini prawf a ddisgrifir ym manyleb y person. 

Bydd eich cais yn cael ei sgorio yn erbyn y wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarperir gennych o dan bob maen prawf a nodir ym Manyleb y Person. Rhowch dystiolaeth gyfredol a pherthnasol yn eich atebion i brofi eich profiad, gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau. Parhewch ar ddalen ar wahân os oes angen a rhifwch a chyfeirnodwch dudalennau ychwanegol.

Cwblhewch y Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Er mwyn mesur effeithiolrwydd ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am ymgeiswyr ein swyddi. Ni fydd y manylion a nodir gennych yn cael eu gweld gan y panel sy’n llunio’r rhestr fer na’r panel cyfweld.

Gwneud cais am fwy nag un swydd 

Os hoffech wneud cais am fwy nag un o’r swyddi a hysbysebir, rhaid anfon ffurflenni cais ar wahân ar gyfer pob swydd.

Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch, cysylltwch ag aelod o’r tîm adnoddau dynol ar 02920 478900.