Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg
Defnyddiwch eich dawn greadigol i ganolbwyntio ar chwarae teg i fenywod yn y gwaith. Mae Chwarae Teg wedi bod yn gweithio i wella datblygiad economaidd menywod yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd.
Mae hyn yn cynnwys gweithio i ddatblygu, dylanwadu a hyrwyddo polisïau ac arferion gwaith sy'n creu amgylchedd gwaith cytbwys a theg lle mae menywod a dynion yn cael yr un cyfle i wella a datblygu eu gyrfaoedd.
Mae'r prosiectau a'r hyfforddiant rydym yn eu darparu i fenywod a busnesau yn rhan annatod o waith Chwarae Teg, ac maent yn sicrhau ein bod yn mynd ati'n ddiwyd i roi damcaniaeth ar waith er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fenywod yng Nghymru yn y tymor hir.
Mae Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg yn rhoi cyfle i chi greu safbwynt newydd ar bwysigrwydd sicrhau chwarae teg i fenywod yng Nghymru. Gan ddefnyddio ein logo "rhubanau" gwyrdd a phorffor, y nod yw creu darn o waith a fydd yn dangos y symbol hwn o "Chwarae Teg i Fenywod" mewn cyd-destun newydd ac arloesol. Mae'n agored i fenywod yng Nghymru sy'n astudio unrhyw un o'r disgyblaethau creadigol yn yr ysgol neu mewn coleg neu brifysgol.
Mae'n bwysig pwysleisio nad cystadleuaeth i ddylunio logo newydd mohoni. Yn hytrach, yr her yw defnyddio ac addasu'r rhubanau fel y mynoch i greu eich gwaith eich hun.
Er gwybodaeth, mae'r logo rhubanau'n cynrychioli dwy fraich yn ymestyn at ei gilydd, a'r ddau ben yn cynrychioli dwylo, gydag un llaw yn cynnig arweiniad a chymorth i'r llall.
Mae'r lliwiau gwyrdd a phorffor yn bwysig gan eu bod yn gyfeiriad hanesyddol at y Swffragetiaid.
Amserlen y Gystadleuaeth:
Dechrau'r gystadleuaeth: Dydd Gwener 7 Hydref 2011
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul18 Rhagfyr 2011
Llunio'r rhestr fer: Dydd Mawrth 20 Rhagfyr 2011
Beirniadu: Canol Ionawr 2012
Cyhoeddi'r enillydd: Dydd Iau 8 Mawrth 2012
Cymryd rhan yn y gystadleuaeth:
1 Dechreuwch trwy lawrlwytho rhubanau Chwarae Teg cliciwch yma. Bydd angen defnyddio'r rhubanau hyn yn eich gwaith. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar sut y dylech ddefnyddio'r rhubanau, gan fod y gystadleuaeth yn gofyn i chi eu haddasu a'u dehongli mewn ffordd greadigol. Er hynny, efallai y bydd o fudd i chi ddeall rhywfaint am Chwarae Teg a'r gwaith mae'r sefydliad yn ei gyflawni.
2 Ar ôl i chi gwblhau eich cynllun, ewch i www.cymraeg.chwaraeteg.com/cais-cystadleuaeth-ddylunio/ i lawrlwytho'r ffurflen gais a dilynwch y cyfarwyddiadau ymgeisio. Noder mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul18 Rhagfyr 2012 am hanner dydd.
3 Bydd angen i geisiadau gynnwys ffotograff digidol o'ch gwaith a gaiff ei lanlwytho i wefan Chwarae Teg lle gall ymwelwyr weld eich gwaith a gwneud sylwadau arno.
Pethau i'w hystyried:
I helpu i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael cymaint o ryddid creadigol â phosibl, prin iawn yw cyfyngiadau'r gystadleuaeth hon.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried maint eich gwaith gan mai'r bwriad yw i gynlluniau'r tri ymgeisydd ar y rhestr fer gael eu cynnwys fel rhan o'r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i'ch cais allu cael ei gludo a'i arddangos yn ddiogel.
Da o beth fyddai ffonio Chwarae Teg ar 029 2047 8900 os ydych chi'n ystyried cyflwyno cais:
• A fyddai'n fwy na 70cm x 70cm x 70cm mewn 3 dimensiwn
• A fyddai'n fwy na 70cm x 70cm ar gyfer darn i'w hongian ar wal
• A fyddai'n pwyso mwy na 10 cilogram o'i hongian o'r nenfwd
• A fyddai'n cynnwys deunyddiau bregus
Y Gystadleuaeth:
Ar ôl y dyddiad cau, bydd ein panel o feirniaid yn cyfarfod i adolygu pob cais er mwyn llunio rhestr fer. Bydd nifer yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn dibynnu ar nifer y ceisiadau y bydd angen i'r beirniaid eu gweld yn ffisegol er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ac arbenigol.
Bydd y panel beirniadu'n archwilio'r ceisiadau ar sail y meini prawf canlynol:
• Creadigrwydd
• Arloesedd
• Defnydd / dehongliad o rubanau Chwarae Teg
• Sylwadau ac adborth y cyhoedd
• Cynnig safbwynt newydd ar Chwarae Teg
Rachel Jones fydd yn cadeirio Panel y beirniaid. Rachel yw Cyfarwyddwr Celfyddydau a Busnes Cymru, elusen a sefydliad aelodaeth sy’n arbenigo mewn hyrwyddo a galluogi partneriaethau buddiol rhwng busnes a’r celfyddydau ledled Cymru.
Gradd mewn cerddoriaeth o Goleg Goldsmiths, Prifysgol Llundain sydd gan Rachel, a ddaw o Gastell-nedd. Bu’n gweithio i Artistic Management Agency, Van Walsum, cyn dychwelyd i Gymru i weithio i Cerdd Byw Nawr!, sefydliad y mae ganddi gysylltiadau cryf ag ef o hyd fel aelod o’r pwyllgor. Ymunodd Rachel â Celfyddydau a Busnes Cymru ym 1996 fel gweinyddwr, a dechreuodd ar ei swydd bresennol ym 1999.
Yn ymuno â Rachel mae Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr; Mari Thomas, y dylunydd gemwaith o fri; a Jo Conti, y dylunydd adnabyddus o Lanbedr Pont Steffan.
Bydd y broses o ddewis y rhestr fer yn dechrau ar ôl dyddiad cau’r gystadleuaeth ar 18 Rhagfyr 2011, a dewisir y tri ymgeisydd a fydd yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn ystod diwrnod beirniadu a gynhelir ar 27 Ionawr 2012.
Cyhoeddir yr enillydd terfynol yn nigwyddiad lansio pen-blwydd Chwarae Teg yn ugain oed a gynhelir ar 8 Mawrth 2012 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Fel rhan o’r wobr, bydd gwaith yr enillydd a’r ddau ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn cael eu dangos yn yr amgueddfa am 3 mis, fel rhan o arddangosfa i ddathlu 20 mlynedd o gyraeddiadau Chwarae Teg o ran cefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru.
Gwahoddir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyflwyno eu ceisiadau i'r panel beirniadu ganol mis Ionawr 2012.
Ar ôl adolygu'r ymgeiswyr ar y rhestr fer, bydd y beirniaid yn dewis y cais buddugol a dau gais arall.
Gwahoddir y tri ymgeisydd ar y rhestr fer i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar noson Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - 8 Mawrth 2012 fel rhan o dderbyniad i lansio arddangosfa i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Chwarae Teg. Yma, cyhoeddir yr enillydd yn swyddogol a chaiff ceisiadau'r ymgeiswyr ar y rhestr fer eu cynnwys yn yr arddangosfa.
Y gwobrau:
Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer:
• Yn cyflwyno eu gwaith fel rhan o arddangosfa Chwarae Teg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, a fydd yn para am dri mis. Bydd yr arddangosfa'n cynnwys bywgraffiad o'r artistiaid, a bydd yn gyfrwng gwych i gefnogi eu gyrfaoedd yn y celfyddydau yn y dyfodol.
Os bydd yr arddangosfa'n teithio i amgueddfeydd eraill ledled Cymru, caiff gwaith yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ei gynnwys ar y daith hon hefyd.
• Yn cael tlws
• Yn cael aelodaeth bersonol o Chwarae Teg am 5 mlynedd
Yn ogystal:
• Bydd yr enillydd yn cael £100 mewn arian parod
• Bydd y ddau ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn cael £50 yr un mewn arian parod
Cwestiynau:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yngl?n â chymryd rhan yn y gystadleuaeth, anfonwch e-bost i: post@chwaraeteg.com


