Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg
Am fod yn greadigol?
Mae’r gwaith beirniadu ar ben, ac enwau’r pump sy’n mynd drwodd i rownd derfynol Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg wedi’u cyhoeddi. Dyma nhw:
Brogan Kingsley o Wrecsam, ac Yasmine Jones, Katie-May Bees, Verity Lunn a Charlotte O’Hare sy’n astudio yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.
Byddwn yn cyhoeddi enw’r enillydd ar 8 Mawrth wrth lansio Arddangosfa Pen-blwydd Chwarae Teg yn 20 oed yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Hoffai’r beirniaid a phawb yn Chwarae Teg ddiolch i’r holl fenywod am gystadlu. Cawsom ein plesio’n fawr gan safon y cynlluniau, a’r holl feddwl creadigol y tu ôl i’r ceisiadau a ddaeth i law.
Gallwch weld gwaith yr holl gystadleuwyr isod, a bydd cynlluniau’r rownd derfynol i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am dri mis o 9 Mawrth.
I ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Chwarae Teg, rydym yn cynnal Cystadleuaeth Ddylunio.
Mae Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg yn rhoi cyfle i fenywod sy'n astudio'r disgyblaethau creadigol, er enghraifft celf, dylunio graffigol, ffasiwn, cerflunwaith ac ati, greu safbwynt newydd ar bwysigrwydd sicrhau chwarae teg i fenywod yng Nghymru.
Gan ddefnyddio ein logo "rhubanau" gwyrdd a phorffor, y nod yw creu darn o waith a fydd yn dangos y symbol hwn o "Chwarae Teg i Fenywod" mewn cyd-destun newydd ac arloesol. Mae'n agored i fenywod yng Nghymru sy'n astudio i lefel safon uwch ac uwch yn yr ysgol neu mewn coleg neu brifysgol.
Fel rhan o'u gwobr, bydd yr enillydd a'r ddau ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn cyflwyno eu gwaith fel rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe am gyfnod o dri mis o 8 Mawrth 2012 ymlaen.
Bydd eu gwaith yn rhan o arddangosfa i ddathlu cyraeddiadau Chwarae Teg o ran cefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul18 Rhagfyr 2011.
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i gymryd rhan, cliciwch yma.
Cefnogir Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg gan Fodurdai Wessex, sydd wedi creu Fiat 500 unigryw i helpu i hyrwyddo’r gystadleuaeth.
Os ydych chi’n gweld y Fiat 500, tynnwch lun a’i anfon i post@chwaraeteg.com er mwyn i ni ei ychwanegu at yr albwm.
Cliciwch yma i weld lluniau o Fiat 500 Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg Modurdai Wessex.
Caiff ceisiadau eu cynnwys isod ac mae croeso i chi ychwanegu'ch sylwadau yn yr iaith o'ch dewis. Ystyrir y sylwadau hyn gan ein panel o feirniaid.
Ydych chi am gymryd rhan?
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut I gymryd rhan
CLICIWCH YMA
Peidiwch ag anghofio i lwytho i lawr i'ch rhubanau …
LLWYTHO I LAWRSylwadau
Jane Nyhan
Yasmine


sam:3