Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg
Am fod yn greadigol?
Mae enillwyr Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg wedi’u cyhoeddi!
Cyhoeddwyd enillwyr Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg ddydd Iau 8 Mawrth 2012 fel rhan o Ddathliad Pen-blwydd Chwarae Teg yn 20 oed yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Llongyfarchiadau i’r canlynol:
Enillwyr
Brogan Kinglsey
Yasmine Jones
Ail
Verity Lunn
Cymeradwyaeth uchel
Katie-May Bees
Charlotte O’Hare
Mae cynlluniau pob un o’r pump a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, fel rhan o arddangosfa arbennig i ddathlu pen-blwydd Chwarae Teg yn 20 oed.
Gallwch eu gweld nhw isod hefyd.
Hoffai Chwarae Teg ddiolch i’r panel beirniaid: Jo Conti, Rachel Jones, Mari Thomas a Robert Lloyd Griffiths ac i bawb a gymerodd ran yng Nghystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg.
I ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu Chwarae Teg, rydym yn cynnal Cystadleuaeth Ddylunio.
Mae Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg yn rhoi cyfle i fenywod sy'n astudio'r disgyblaethau creadigol, er enghraifft celf, dylunio graffigol, ffasiwn, cerflunwaith ac ati, greu safbwynt newydd ar bwysigrwydd sicrhau chwarae teg i fenywod yng Nghymru.
Gan ddefnyddio ein logo "rhubanau" gwyrdd a phorffor, y nod yw creu darn o waith a fydd yn dangos y symbol hwn o "Chwarae Teg i Fenywod" mewn cyd-destun newydd ac arloesol. Mae'n agored i fenywod yng Nghymru sy'n astudio i lefel safon uwch ac uwch yn yr ysgol neu mewn coleg neu brifysgol.
Fel rhan o'u gwobr, bydd yr enillydd a'r ddau ymgeisydd arall ar y rhestr fer yn cyflwyno eu gwaith fel rhan o arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe am gyfnod o dri mis o 8 Mawrth 2012 ymlaen.
Bydd eu gwaith yn rhan o arddangosfa i ddathlu cyraeddiadau Chwarae Teg o ran cefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul18 Rhagfyr 2011.
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i gymryd rhan, cliciwch yma.
Cefnogir Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg gan Fodurdai Wessex, sydd wedi creu Fiat 500 unigryw i helpu i hyrwyddo’r gystadleuaeth.
Os ydych chi’n gweld y Fiat 500, tynnwch lun a’i anfon i post@chwaraeteg.com er mwyn i ni ei ychwanegu at yr albwm.
Cliciwch yma i weld lluniau o Fiat 500 Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg Modurdai Wessex.
Caiff ceisiadau eu cynnwys isod ac mae croeso i chi ychwanegu'ch sylwadau yn yr iaith o'ch dewis. Ystyrir y sylwadau hyn gan ein panel o feirniaid.
Lanlwythwyd gan: Samantha Williams [1 sylwad]
When I First started to think about this project I remembered of how strong women are to stand up for what they believe in and I have respect for them. I have picked four of the greatest women to add to my project so I can give them recognition. I created a collage including these women. I also added a quote ‘Remember all things are possible for those who believe’ because all these women had a dream and when you believe you can achieve. The only colour I have added was on the ribbon for ‘Chwarae Teg’ logo.Ydych chi am gymryd rhan?
I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut I gymryd rhan
CLICIWCH YMA
Peidiwch ag anghofio i lwytho i lawr i'ch rhubanau …
LLWYTHO I LAWR


Charlotte