European Equality Partnership
Bu Chwarae Teg yn rheoli'r bartneriaeth hon o arbenigwyr cydraddoldeb, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru/ERDF rhwng 1997 a 2005. Roedd y bartneriaeth yn hyrwyddo arferion da ym maes cydraddoldeb yng Nghronfeydd Strwythurol Ewrop ac yn cefnogi datblygu cynnwys dogfennau'r Rhaglen o ran cydraddoldeb; bu'n hyfforddi aseswyr WEFO, swyddogion Ewropeaidd/Cydraddoldeb mewn awdurdodau lleol ac ymgynghorwyr Ewropeaidd yn y sector gwirfoddol. Aeth y bartneriaeth ati hefyd i ysgrifennu dwy set o ganllawiau cydraddoldeb ‘Canllawiau Cyfle Cyfartal i Raglenni Ewropeaidd yng Nghymru', a gynlluniwyd i esbonio sut dylai prosiectau fynd i'r afael â dwyn materion i'r brif ffrwd yng nghyswllt y Cronfeydd Strwythurol; a ‘defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewrop yng Nghymru - Canllawiau Cyfle Cyfartal Ychwanegol ar gyfer Ymgeiswyr ac Aseswyr', a oedd yn dangos sut y dylai aseswyr ac ymgeiswyr ystyried yr elfen cydraddoldeb mewn ceisiadau.


