Katy Chamberlain
Prif Weithredwr
![]() |
Ar ôl 4 blynedd fel aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Teg a Thrysorydd y Bwrdd, penodwyd Katy yn Brif Weithredwr yn 2008. Cyn ymuno â Chwarae Teg, bu Katy’n gweithio am dros 20 mlynedd i’r cwmni cynghori busnes a chyfrifeg rhyngwladol KPMG, lle cafodd brofiad eang o bob math o fusnesau ledled Cymru a thu hwnt. Bu’n arloesi ym maes gweithio hyblyg ar lefel uwch yn y swydd honno. Cyfrifydd siartredig yw Katy a raddiodd o Brifysgolion Leeds a Reading. Enillodd Wobr Cymraes y Flwyddyn yng nghategori Cyflawni ym maes Rheoli yn 2000 ac roedd yn Llywydd Cymdeithas Cyfrifwyr Siartredig De Cymru yn 2010/11. Mae Katy yn ymroddedig i ddefnyddio ei phrofiad busnes i weithio gyda’i thîm er mwyn hybu a datblygu cyfraniad menywod at economi Cymru. |
Trish Chalk
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
![]() |
Ymunodd Trish Chalk â Chwarae Teg fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes ym mis Medi 2007. Mae ganddi radd MA a phrofiad helaeth ym maes rheoli a datblygu busnes. Mae Trish wedi gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector di-elw ers naw mlynedd, a chyn ymuno â Chwarae Teg bu’n arwain sefydliad di-elw yn Lloegr lle’r oedd yn gyfrifol am weithredu prosiectau i wella effeithlonrwydd gweithredol a datblygu rhaglenni masnachol. Mae Trish yn gyfrifol am ddatblygu rhaglenni cymorth Chwarae Teg ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. |
Hayley Dunne
Rheolwr Prosiect
|
Ymunodd Hayley â Chwarae Teg ym mis Ionawr 2001 a bu’n gweithio ar brosiectau a busnes craidd ers hynny. Ers Ionawr 2003, bu’n gyfrifol am waith Chwarae Teg ar hwyluso cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a oedd yn cynnwys rheoli prosiect ar gyfer sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a arweiniodd at adroddiad ar arfer gorau, datblygu gwefan ar gyfer Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith yng Nghymru a Chronfa Her BBaCh. Cyn cael ei phenodi’n Rheolwr Prosiect Cenedl Hyblyg, roedd Hayley yn gyfrifol am weithredu Strategaeth Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru – Sicrhau’r Cydbwysedd Iawn, a barodd tan fis Mawrth 2008. |
Ann Elliot
Rheolwr Adnoddau
|
Ymunodd Ann â ni ym mis Chwefror 2003 fel Rheolwr Adnoddau Chwarae Teg â chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol, Rheoli Cyfleusterau ac Iechyd a Diogelwch. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad ym maes personél a hyfforddiant yn y sectorau preifat a di-elw. Yn ogystal â rheoli swyddogaethau adnoddau dynol a chyfleusterau Chwarae Teg, mae Ann yn cyfrannu at gyflawni cynllun busnes y sefydliad a’r gwaith o ddatblygu prosiectau newydd, ac mae’n cynorthwyo gyda rhai gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus. |
John Jackson
Rheolwr Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
|
Mae John yn gyfrifol am waith marchnata a chysylltiadau cyhoeddus Chwarae Teg a’i brosiect Cenedl Hyblyg. Mae gan John gymhwyster ôl-radd mewn marchnata a thros 18 mlynedd o brofiad o gyflawni gwaith ar gyfer cwmnïau enwog fel Tesco a House of Fraser. Mae ganddo brofiad helaeth o farchnata prosiectau yn sgil ei waith gyda menter e-fasnach Cyfle Cymru. Yn 2010, arweiniodd John ymgyrch Womenspire Cenedl Hyblyg a enillodd wobr Balchder y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus am y Defnydd Gorau o Gysylltiadau Cyhoeddus Digidol. |
Judy Leering
Cyfarwyddwr Cyllid a TG
|
Cyfrifydd cymwysedig â thros 10 mlynedd o brofiad ariannol yn y sector gwirfoddol yw Judy, a bu’n gyfrifol am reoli cyllidebau ariannol gwerth dros £3 miliwn. Mae ei gwaith yn cynnwys rheoli a rhoi cyfrif am ffrydiau cyllid amrywiol; sicrhau bod systemau a mesurau rheoli effeithiol ar waith i gefnogi monitro ac adrodd ar berfformiad ariannol a gweithredol; trafod â chyrff ariannu a chynghori’r Bwrdd ar yr holl bynciau ariannol a chyfrifyddu. Mae gan Judy brofiad helaeth o geisiadau am grantiau Ewropeaidd; cyfrifyddu ac adrodd ar brosiectau; archwiliadau a chydweithio â swyddogion ar lefel uwch. |
Bev Pold
Rheolwr Arloesedd Prosiectau
|
Ymunodd Bev â Chwarae Teg yn 2001 fel aelod o dîm Menter Merched Cymru ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o feysydd ledled y sefydliad ers hynny, gan gynnwys meysydd polisi, datblygu busnesau a rheoli prosiectau. Bev yw’r Arweinydd Thema ar gyfer Menter ac ar hyn o bryd mae’n datblygu prosiectau newydd i gyd-fynd â phortffolio Chwarae Teg ac yn rhoi cymorth technegol i brosiect Cenedl Hyblyg. Yn 2009, derbyniodd Bev Wobr y Frenhines am Hyrwyddo Menter. |




