Chwarae Teg yn dathlu 100 mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
8th March 2011
Chwarae Teg yn dathlu 100 mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod
Eleni, ym mlwyddyn canmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar ddydd Mawrth 8 Mawrth, bydd Chwarae Teg yn trefnu, mynychu a chefnogi digwyddiadau ar draws Cymru wrth i ni ddathlu gyda balchder llwyddiannau menywod, a hefyd cydnabod yr angen i barhau i weithio er mwyn cynyddu safle economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol menywod.
Dyma fanylion y gweithgareddau yr ydym yn gysylltiedig â hwy ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2011:
Trefnu Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod:
Abertawe
Fel rhan o ddigwyddiad "Gwragedd Gwych Cymru" sy'n cael ei drefnu gan Soroptomist Rhyngwladol, mae Chwarae Teg yn rhedeg gweithdy Archwilio Mentergarwch ar gyfer menywod sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am weithio ar gyfer eu hunan neu ddechrau eu busnes eu hunain.
Yn cael ei gynnal yn Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe ar ddydd Mawrth 8 Mawrth, bydd y gweithdy yn rhedeg o 10a.m. tan 12 canol dydd ac mae'n rhad ac am ddim i fynychu. Serch hynny gan fod llefydd yn gyfyngedig mae angen i chi archebu lle o flaen llaw felly cysylltwch â jane.nyhan@chwaraeteg.com neu ffoniwch 029 2047 8900 i gadw lle.
Llanelli a Deganwy
I'r menywod sy'n gyfranogwyr i'r prosiect Cenedl Hyblyg rydym wedi trefnu dau ddigwyddiad er mwyn helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac i ddarparu ysbrydoliaeth bellach i'n cyfranogwyr er mwyn eu helpu i ddatblygu a thyfu yn eu gyrfaoedd.
Mae'r nosweithiau yma yn cynnwys siaradwyr sy'n fenywod a fydd yn rhannu eu storiâu er mwyn helpu i ysbrydoli ein gwesteion yn eu bywydau hwy eu hunan, ynghyd â stondinau a marchnadfa sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Byddwn hefyd yn cyflwyno Cenedl Hyblyg 24/7 - ein canolfan adnodd ar lein newydd sydd wedi ei gynllunio i helpu ein cyfranogwyr benywaidd i ddod o hyd i'r wybodaeth y maent ei angen i gefnogi eu datblygiad gyrfaol.
Mae'r digwyddiadau yma wedi cael eu trefnu ar gyfer menywod sy'n cymryd rhan yn ein Prosiect Cenedl Hyblyg ac mae dros 100 o fenywod yn mynychu yn barod. Mae'r llefydd bron yn llawn yn y ddau leoliad, er hynny, os ydych yn gyfranogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn mynychu cysylltwch â ni ac os oes lle gennym byddwn yn eich gwahodd i fynychu. Ar gyfer y digwyddiad yn Neganwy ffoniwch 01492 511705 ac ar gyfer y digwyddiad yn Llanelli ffoniwch: 01554 770612.
Mynychu Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod:
Mae'n bleser gennych ein bod wedi cael ein gwahodd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod sy'n cael eu trefnu ganddynt yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar ddydd Mawrth rhwng 10.30am a 2.30pm.
Mae'r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim ac yn agored i'r cyhoedd felly galwch mewn a chyfarfod â'r tîm ar stondin Chwarae Teg i ddysgu rhagor am y gwaith yr ydym yn ei wneud wrth helpu i symud datblygiad economaidd menywod ymlaen yng Nghymru.
Cefnogi Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod:
Mae'n bleser gan Chwarae Teg ein bod yn cefnogi Gweithgareddau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod sy'n cael eu cynnal gan Brifysgol Morgannwg trwy noddi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Ysgol Fusnes Morgannwg.
I ddysgu rhagor am y gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gan yr ysgol fusnes ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cliciwch yma http://news.glam.ac.uk/news/en/2011/feb/02/WV2011/
Gwybodaeth bellach:
I ddysgu rhagor am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ewch i www.internationalwomensday.com



