Cystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg

20th October 2011

Big Picture  Chwarae Teg Agile Nation    

Mae asiantaeth datblygu economaidd Cymru ar gyfer menywod, Chwarae Teg, yn gwahodd darpar artistiaid i ddylunio darn o waith newydd gan ddefnyddio ei logo eiconig fel rhan o gystadleuaeth i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed y flwyddyn nesaf.

Mae’r sefydliad di-elw yn annog cystadleuwyr i ddefnyddio eu creadigrwydd i addasu logo presennol y sefydliad, sef y rhubanau gwyrdd a phorffor sy’n symbol o fudiad y Swffragetiaid, a’i ddehongli yn eu gwaith eu hunain.

Sefydlwyd Chwarae Teg ym 1992 i gefnogi datblygiad economaidd menywod yng Nghymru drwy hybu cydraddoldeb a ‘chwarae teg’ yn y gweithle, helpu menywod i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, sicrhau cyfle cyfartal a gweithio gyda chyflogwyr i gynyddu dylanwad menywod yn y gweithle.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwragedd yng Nghymru sy’n astudio pynciau creadigol ar lefel Safon Uwch, neu gymhwyster cyfwerth, neu uwch. Mae pynciau o’r fath yn cynnwys celf, ffotograffiaeth, dylunio graffig, ffasiwn a cherflunwaith mewn ysgolion, prifysgolion neu golegau. Bydd gwaith yr enillydd a’r ddwy fyfyrwraig sy’n dod yn ail yn cael ei arddangos am dri mis fel rhan o arddangosfa arbennig sy’n cael ei lansio yn ystod digwyddiad dathlu 20fed pen-blwydd Chwarae Teg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod – 8 Mawrth 2012.

Meddai Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Nod y gystadleuaeth yw dangos cyfraniad enfawr menywod ym maes celf a dylunio. Rydym yn gobeithio denu amrywiaeth eang o ddehongliadau a chyflwyniadau cyfoes o’n logo.

“Bydd yr enillydd a’r rhai sy’n dod yn ail cael cyfle gwych i arddangos eu gwaith am dri mis yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, a mawr obeithiaf y bydd hyn yn hwb i’w gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Rydym yn annog cystadleuwyr i ddefnyddio eu dychymyg a’u creadigrwydd i’r eithaf er mwyn rhoi gwedd newydd ar y symbol eiconig hwn.”

Mae Adrian Newman, arweinydd rhaglen BA (Anrhydedd) Dylunio Graffig Prifysgol Cymru Casnewydd yn cefnogi'r gystadleuaeth: “Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae'n hollbwysig bod astudiaethau myfyrwyr yn eu galluogi i ganfod gwaith proffesiynol cyn gynted â phosibl ar ôl graddio. Mae'r brifysgol yn helpu myfyrwyr i fanteisio ar eu sgiliau creadigol drwy ddangos iddynt sut i wneud cyflwyniadau proffesiynol, rhwydweithio a chymryd rhan mewn cystadlaethau comisiynu.

"Bydd cystadleuaeth ddylunio Chwarae Teg yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr gael eu gwaith wedi'i arddangos mewn canolfan gyhoeddus fawreddog. Mae'n bwysig bod darpar-fyfyrwyr celf a dylunio yn sylweddoli y gallent wneud bywoliaeth o'u diddordeb creadigol."

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw 18 Rhagfyr 2011 ac mae gwybodaeth am sut i gystadlu ar gael yn http://cymraeg.chwaraeteg.com/cystadleuaeth-ddylunio/


Cliciwch i ymuno â

Oeddech chi'n gwybod?

"Cwmnïau gyda maint 30%menywod mewn swyddi uwch yn fwy tebygol o gael ddiwylliant lle mae holl fenywod yn ffynnu"

- Ysgol Fusnes Llundain