Rhwydwaith Cydbwyso Bywyd a Gwaith y De-ddwyrain – 18 Hydref 2011
24th October 2011
Cynhaliwyd rhagor o ddigwyddiadau Rhwydwaith Cydbwyso Bywyd a Gwaith Cyflogwyr Rhanbarthol Chwarae Teg yr wythnos hon, ac rydym yn ddiolchgar i westy’r Maldron yng Nghaerdydd am ei gynnal yno.

Cyflwynodd Ceri Cryer, Age Cymru sesiwn fywiog i’r Rhwydwaith ar ‘Heneiddio yng Nghymru’, ac roedd cyfle i rannu arferion da, canfod atebion a goresgyn rhwystrau i gydraddoldeb oedran yn y gweithle.
Ar ôl y sesiwn, gofynnwyd i aelodau’r rhwydwaith nodi rhai pethau i’w hystyried. Ymysg y themâu cyffredin oedd:-
- Cyfleu materion yn ymwneud â bywyd a gwaith yn fwy effeithiol.
- Adolygu a gwerthuso polisïau cyfredol yn ymwneud â’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio hyblyg – a ydynt yn deg ac a ydynt yn cydnabod oedran?
- Hyfforddi ac ail-hyfforddi staff ar bolisïau i dderbyn newid.
Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r Rhwydwaith ac i holl staff y gwesty am sicrhau bod y digwyddiad yn llwyddiant mawr!
Bydd digwyddiadau 2011 y Rhwydwaith Cydbwyso Bywyd a Gwaith yn dod i ben yn y De-ddwyrain ddydd Iau, 27 Hydref yng Ngwesty a Sba’r Towers. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.



