Busnesau Cymru i gael cymorth rhithwir gyda’r Ddeddf Cydraddoldeb

22nd December 2011

Bydd cyflogwyr yng Nghymru yn gallu croesawu’r Flwyddyn Newydd gyda’r sicrwydd eu bod yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 diolch i gyfres o ganllawiau ar agweddau allweddol y ddeddfwriaeth, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Bydd y canllawiau ar gael ar-lein o fis Ionawr ymlaen trwy brosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg, yr asiantaeth datblygiad economaidd i fenywod. Byddant yn gweithredu fel pwynt cyfeirio i fusnesau sydd am wella eu dealltwriaeth o’r rheoliadau ac sy’n awyddus i wybod sut y gallant fod o fudd i fusnesau a gweithwyr cyflogedig.

Ariennir rhaglen Esblygu £12.5 miliwn prosiect Cenedl Hyblyg gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau yn ardaloedd cydgyfeirio Cymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor iddynt ar effeithiau cadarnhaol strategaeth amrywiaeth effeithiol yn y gweithle.

Mae’r taflenni ffeithiau yn trafod amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y 9 Nodwedd a Warchodedig a gwmpasir gan y ddeddfwriaeth. Mae’r canllawiau ar gael i’w lawrlwytho o agilenation.co.uk, ac maent hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol ar sut mae busnesau’n gallu manteisio ar y ddeddf a sut y gallant hyrwyddo amgylchedd gwaith teg a chyfartal.

Meddai rheolwr prosiect Cenedl Hyblyg, Hayley Dunne: “Trwy ryngweithio â BBaChau yng Nghymru rydym yn deall yr her sy’n wynebu llawer o gyflogwyr wrth weithredu’r Ddeddf Cydraddoldeb, yn enwedig busnesau bach. Er bod pawb wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r gyfraith, gallai mwy o fusnesau gofleidio’r Ddeddf yn well er mwyn rhoi cyfle iddynt fod yn gyflogwyr arfer gorau. Bydd hyn yn cynnig manteision gwirioneddol iddynt, fel gwella eu delwedd a chynyddu teyrngarwch staff. Mae astudiaethau’n dangos bod cyflogwyr cyfle cyfartal mewn sefyllfa well i ddenu a chadw’r aelodau staff mwyaf talentog; mae hyn yn hollbwysig i broffidioldeb unrhyw fusnes.

“Rydym yn deall nad oes gan BBaChau yr un lefel o adnoddau i ddatblygu strategaethau amrywiaeth effeithiol o gymharu â busnesau mawr. Fodd bynnag, diolch i gymorth Cenedl Hyblyg gallan nhw hefyd fanteisio ar gyngor arbenigol, a’r taflenni ffeithiau yw’r man cychwyn perffaith i dderbyn y wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod amrywiaeth yn gweithio i fusnesau, gweithwyr cyflogedig a chwsmeriaid. Mae’r Flwyddyn Newydd yn gyfle i adolygu polisïau ac ystyried sut mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gweithle ac i ganlyniadau.”

Mae taflenni ffeithiau’r Ddeddf Cydraddoldeb ar gael i’w lawrlwytho o 6 Ionawr 2012 yn www.agilenation.co.uk 


Cliciwch i ymuno â

Oeddech chi'n gwybod?

"Cwmnïau gyda maint 30%menywod mewn swyddi uwch yn fwy tebygol o gael ddiwylliant lle mae holl fenywod yn ffynnu"

- Ysgol Fusnes Llundain