Menter Arloesi Merched a Grŵp Trafod Syniadau

12th January 2012

Cefndir

Bydd y Grŵp Menter ac Arloesedd newydd yn dod â chynrychiolwyr at ei gilydd o amrywiaeth o asiantaethau, busnesau a sefydliadau dros Gymru gyfan sydd â diddordeb ac arbenigedd penodol yn y broses o gychwyn busnesau gan fenywod a thwf busnesau, mentrau cymdeithasol a chymorth busnes (polisi ac ymarfer) a arweinir gan fenywod.

Cynhaliwyd y sesiwn drafod gyntaf yng Ngwesty’r Future Inn, Caerdydd ar 15 Tachwedd, fel rhan o’r Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Dosbarthwyd gwahoddiadau personol i amrywiaeth o arbenigwyr ym maes busnes a menter yng Nghymru a derbyniwyd 15 ymateb, ynghyd ag ymddiheuriadau gan y rhai nad oedd yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod ond oedd am eu cynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Cytunwyd ar fformat y sesiwn gyda Brace Griffiths, Uwch Reolwr, Gwasanaethau Dechrau Busnes, Llywodraeth Cymru, Yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS) a oedd hefyd yn bresennol ac a gyfrannodd at y trafodaethau. Roedd Rachel Fleri, un o Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth yng Nghymru, yn bresennol hefyd. 

Roedd y drafodaeth agoriadol yn canolbwyntio ar:

 “Ysgogwyr Menter: creu cyfleoedd i ymgysylltu ac annog mwy o fusnesau a arweinir gan fenywod”

Mae’r adroddiad hwn o’r drafodaeth ford gron yn amlygu’r pwyntiau a’r camau gweithredu allweddol a nodwyd gan y rhai a oedd yn bresennol ar gyfer hyrwyddo menter – a menter menywod yn arbennig – a ble gellir archwilio’r heriau, y cyfyngiadau ac arfer gorau yn fanylach.

CYNRYCHIOLWYR A WAHODDWYD

Enw

Sefydliad

Christine Atkinson

Prifysgol Morgannwg

Bethan Darwin

DarwinGray Solicitors

Julie Dyer

A4E

Rachel Fleri

Specialist Security Co

BraceGriffiths

Llywodraeth Cymru

Anne Howells (Ysgrifenyddiaeth)

Chwarae Teg

Helen Jenkins

Inspiration Wealth Management

Dr Glenda Jones

Aelod Cyswllt Markit

Ann Lancett

Cyfarwyddwr Markit

Karen McGrath

EventureUK

Rose Pates

Banc Barclays

Bev Pold (Cadeirydd)

Chwarae Teg

Shannon Robinson

Social Enterprise Solutions Cyf

Gwenda Williams

GW Consulting

Janet Scicluna

Janet Scicluna Associates

Linda Strange

Broomfield& Alexander

Nia Wright

Canolfan Cydweithredol Cymru

Ymddiheuriadau

Anna Bastek

Wolfestone Translation

Lis Burnett

Prifysgol Morgannwg

Cerris Dearsley –Hopkins

Llywodraeth Cymru

Hayley Evans

Prime Cymru

Sue Poole

Coleg Abertawe

Catrin Williams

Canolfan Busnesau Bach

Crynodeb o’r drafodaeth

Ysgogwyr Menter: creu cyfleoedd i ymgysylltu ac annog mwy o fusnesau a arweinir gan fenywod

Mae creu hinsawdd o dwf a ffyniant yn allweddol er mwyn gweld cynnydd yn nifer y menywod sy’n cychwyn busnesau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r Daith Fenter yn cynnwys tri cham fel arfer: ffrwythloni, deori a meithrin. Mae problemau’n codi pan fo’r unigolyn sy’n cychwyn busnes yn wynebu rhwystrau yn un neu fwy o’r camau hyn. Bydd y rhwystrau hyn yn wahanol i bob unigolyn ac felly bydd angen mynd i’r afael â’u hanghenion yn unigol. Y teimlad oedd mai’r hyn sy’n cymell llwyddiant a chynaliadwyedd mewn busnes ar y cyfan oedd adnabod cleientiaid/cwsmeriaid a chyflawni anghenion y busnes. “Heb gwsmeriaid/cleientiaid, nid oes gennych fusnes….”

Cafwyd trafodaeth helaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac adroddodd Chwarae Teg fod BETS/Llywodraeth Cymru newydd gomisiynu cyfres o weithdai ar Archwilio Menter. Nod y gweithdai oedd cyrraedd y menywod hynny nad oedd yn barod i gychwyn eu mentrau newydd eu hunain, ond a oedd angen cymorth ychwanegol i ddatblygu syniadau, asesu pa mor ymarferol bosibl yw’r busnes a chael hyder i wybod ble i gael rhagor o wybodaeth. Nid yw’r gweithdai hyn yn disodli darpariaeth cymorth cyfredol i fusnesau yng Nghymru, ond maent yn ychwanegu gwerth ac yn ei gwneud yn bosibl i bontio’n ddi-dor rhwng cael syniad a chychwyn busnes.

Mae yna dueddiad i arddangos llwyddiannau busnes mawr gan fenywod e.e. Hayley Parsons / Cynhyrchion Llaeth Organig Rachel’s. Fodd bynnag, mae gan bob unigolyn ddyheadau gwahanol o ran llwyddiant ac i rai menywod bydd eu busnes yn darparu cyflog rhan-amser yn unig er mwyn iddynt gael dilyn diddordeb neu ffordd o fyw. Mae’r Rhaglen Modelau Rôl Dynamo wedi bod yn llwyddiannus dros ben o ran mynd a phobl busnes llwyddiannus i ysgolion ac ati i sôn am eu taith ym myd busnes ac i rannu eu profiadau. Gellir addasu’r prosiect hwn yn hawdd ar gyfer oedolion a byddai modd gwneud mwy o ddefnydd ohono wrth hyfforddi a datblygu sgiliau busnes.

Cytunwyd bod cael gafael ar gyllid yn parhau’n broblem sylweddol i rai menywod sy’n cychwyn ym myd busnes. Mewn trafodaeth am gyllid micro a benthyciadau gan gymheiriaid, nodwyd eu bod yn cynnig cyfleoedd i‘r menywod hynny nad ydynt yn gallu benthyca trwy ddulliau traddodiadol. Er bod cyllid micro wedi hen ennill ei blwyf yn Ewrop, nid yw’n cael ei hyrwyddo’n eang yng Nghymru.

Ysgogwyr ar gyfer cychwyn busnesau yng Nghymru

Defnyddiwyd tair enghraifft o fenywod rhwng 40 a 60 oed yn cychwyn busnes a nodwyd yr ysgogwyr amrywiol canlynol:

  • Diswyddo
  • Damwain
  • Newidiadau mewn Bywyd

Roedd angen ychydig o gyllid i ddatblygu pob syniad, ond roedd angen rhoi’r arian yma i’r unigolyn yn uniongyrchol yn hytrach nac i ddarparwyr hyfforddiant neu wasanaethau cyfreithiol neu farchnata ac ati. Mae amodau’r broses ymgeisio am Gynllun Lwfans Menter a’r dull o’i fonitro, er enghraifft, hefyd yn golygu nad oes arian ar gael i bawb. Mae angen sicrhau bod gan y broses o ddosbarthu arian strwythur er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn, a’u paratoi ar gyfer cychwyn y daith fenter ar unwaith.

Ysgogwyr eraill i fynd yn hunangyflogedig/gychwyn busnes

Mae arian, annibyniaeth a rhwystrau ar yr ysgol yrfa yn gallu ysgogi menywod i fynd yn hunangyflogedig.

Rhoddodd Brace Griffiths, Llywodraeth Cymru, y diweddaraf am yr hyn a fydd yn digwydd ym maes Cymorth Busnes yng Nghymru yn 2012 drwy gyflwyno gwasanaeth diwygiedig sy’n cynnig cymorth i gychwyn busnes a fydd yn ystyried argymhellion gwerthusiad diweddar. Nod y gwasanaeth diwygiedig fydd gwella gwasanaeth sydd eisoes yn llwyddiannus. 

Bydd y gwasanaeth diwygiedig yn darparu gwasanaeth wedi’i addasu er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn, rhoi cymorth ychwanegol ar ôl cychwyn busnes, a mwy o gymorth i’r busnesau hynny sydd â’r potensial i dyfu.

Bydd Rachel Fleri yn ystyried Train 2000/Canolfan i Fenywod yn Lerpwl i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut y gallai weithio yng Nghymru. Mae’r Ganolfan yn Lerpwl yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ac unedau deori ar gyfer busnesau newydd, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chymorth i fusnesau. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer 10 o fusnesau micro newydd yn adeilad newydd Prifysgol Morgannwg yn Nhrefforest er mwyn annog busnesau newydd.  

Demograffeg

Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data wedi’i ddadgyfuno am fusnesau newydd yng Nghymru. Mewn rhai rhannau o’r Gogledd, mae 50% o’r busnesau newydd yn cael eu harwain gan fenywod ond mae’r ffigwr yn nes at 20% mewn rhannau o’r De. Yng nghefn gwlad Cymru, mae hunangyflogaeth yn ddewis naturiol i fenywod gan fod cyfleoedd cyflogaeth yn brin.   

Menter Gymdeithasol

Cafwyd trafodaeth hefyd am werth mentrau cymdeithasol wrth feithrin gallu, sgiliau a chymwysterau yn y cymunedau hynny lle mae dewisiadau gyrfa wedi’u cyfyngu’n aml iawn. Roedd yr aelodau’n cydnabod yng Nghymru bod mentrau cymdeithasol yn cyfrannu’n gynyddol fwyfwy at weithgarwch economaidd yng Nghymru a bod y mentrau hynny’n tyfu mewn statws.

Sut mae hybu delwedd menywod ym myd busnes yng Nghymru?

Awgrymwyd bod angen i ni fod yn fwy rhagweithiol wrth sicrhau sylw pobl fel Sion Barry, Gohebydd Busnes y Western Mail, i hyrwyddo straeon am fusnesau llwyddiannus a arweinir gan fenywod.

Daeth y sesiwn i ben yn dilyn trafodaeth fywiog iawn a chytunwyd ar rai pwyntiau allweddol: 

  • Roedd angen gweithdy arall ar gyfer y menywod hynny a oedd eisoes wedi ystyried menter ond nad oedd eto wedi ymuno â chyrsiau busnes prif ffrwd. Gallai’r sesiwn ddeori hon ganolbwyntio ar feithrin syniadau busnes, cynnig mwy o gymorth wrth ymchwilio’r farchnad, asesu pa mor ymarferol yw syniadau cyn symud ymlaen i’w datblygu. 
  • Ehangu’r prosiect DYNAMO gydag oedolion ar gyfer grwpiau cymunedol, Sefydliad y Merched/Merched y Wawr ac ati er mwyn hyrwyddo hunangyflogaeth a rhannu profiad a gwybodaeth. 
  • Rhoi cyfle i fusnesau newydd a busnesau sy’n tyfu gael manteisio ar gontractau sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw’r contractau sy’n cael eu cynnig wedi’u dadgyfuno ac mae eu gwerth yn rhy uchel, neu nid oes ganddynt gymalau cymdeithasol, ac felly maent yn eithrio ymgeiswyr newydd.  
  • Mae angen i ni “ail-ddiffinio” ystyr twf yng Nghymru. Trafodwyd hyn yn fanwl, yn enwedig beth yn union yw “twf” a phwy sy’n penderfynu. 
  • Mae cyllid micro/cael gafael ar gyllid busnes yn parhau i gyfyngu nifer o fusnesau newydd neu fusnesau sy’n tyfu. Cyllid ar gyfer busnes fydd y pwnc nesaf i’w drafod. 

Daeth y sesiwn i ben gyda Brace Griffiths, Llywodraeth Cymru, yn crynhoi’r pwyntiau allweddol, pwyntiau y bydd yn eu hystyried ar gyfer rhoi adborth arnynt yn y sesiwn nesaf yn gynnar yn 2012.

Diolchwyd i bawb a gyfrannodd at y drafodaeth fywiog hon a dymuniadau gorau i Rachel Fleri gyda’i busnes ac yn ei rôl.

Cynhelir y drafodaeth ford gron nesaf yn ystod mis Chwefror 2012 a’r pwnc dan sylw fydd “Sicrhau cyllid busnes i fenywod”.


Cliciwch i ymuno â

Oeddech chi'n gwybod?

"Cwmnïau gyda maint 30%menywod mewn swyddi uwch yn fwy tebygol o gael ddiwylliant lle mae holl fenywod yn ffynnu"

- Ysgol Fusnes Llundain