Chwilio am weithle mwyaf cynhwysol Cymru

21st February 2012

Cyhoeddi categori newydd yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru, Busnes yn y Gymuned 

Mae’r elusennau wedi dod ynghyd i ddatblygu cynllun gwobrau i wobrwyo busnesau yng Nghymru sy’n rhoi arferion a pholisïau ar waithsy’n sicrhau bod gweithluoedd hyblyg, amrywiol a medrus yn cael eu recriwtio, eu cadw a’u dyrchafu.

Anogir busnesau o Fôn i Fynwy i gystadlu am y ‘Wobr Sefydliad Hyblyg’ newydd, a gynigir mewn partneriaeth gyda phrosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg trwy wobrau busnesau cyfrifol blynyddol BITC, Gwobrau Rhagoriaeth Cymru.

 

Bydd y gwobrau’n cydnabod yr ymgeiswyr mewn dwy ffordd. Bydd busnesau sy’n cyrraedd safon dda yn cael eu hystyried ar gyfer statws ‘Cyflogwr Delfrydol’ Cenedl Hyblyg Chwarae Teg. Efallai y bydd y busnesau hynny sy’n cyrraedd safon uwch yn cael y cyfle hefyd i gael lle ar restr fer Gwobrau Sefydliadau Hyblyg BITC. Cyhoeddir enw enillydd y categori yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru 2012.

Hayley Dunne, Rheolwr Prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg sy’n esbonio beth fydd y beirniaid yn chwilio amdano: “Gyda’r Wobr Sefydliad Hyblyg, rydym ni’n edrych am fentrau sy’n dangos dull hyblyg o fynd ati i gynllunio swyddi a’r amgylchedd gwaith, sydd wedi dylanwadau mewn ffordd gadarnhaol ar y gweithwyr a’r busnes yn ei gyfanrwydd. Gwyddom fod yna enghreifftiau gwych o hyn yn digwydd, ac rydym ni’n annog y cwmnïau hynny i ystyried cystadlu.”

Mae Gwyn George, cwmni o gyfreithwyr yn Aberdâr, wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chwarae Teg i greu amgylchedd gwaith cefnogol sy’n manteisio ar arferion gweithio hyblyg ac o bell. Meddai: “Gyda’r holl staff, credwn ei bod hi’n hanfodol eu bod yn cael eu talu’n ddigonol a’u hyfforddi’n iawn, er mwyn iddyn nhw barhau’n gynhyrchiol a brwdfrydig. Mae’n llawn mor bwysig bod ganddyn nhw’r cyfle i weithio’n hyblyg a diolch i dechnoleg fodern, mae modd gwneud hynny. Dyma fydd yr allwedd i fusnes llwyddiannus yn y dyfodol.”

Y wobr Sefydliad Hyblyg yw un o’r wyth categori yng Ngwobrau Rhagoriaeth Cymru sy’n cydnabod, yn gwobrwyo ac yn dathlu busnesau sy’n gwella eu heffaith gyffredinol ar gymdeithas. Mae’r Gwobrau’n rhoi’n sylw i faterion yn ymwneud â’r gweithle, y gymuned, y gadwyn gyflenwi a materion amgylcheddol. Mae’r gwobrau wedi hen ennill eu plwyf fel y brif ffordd o nodi a dathlu arferion gorau a rhannu’r newyddion da am effaith gadarnhaol busnesau Cymru ar gymdeithas a’r amgylchedd.

 

Meddai Simon Harris, Cyfarwyddwr Cymru BITC: “Rydym yn croesawu’r bartneriaeth newydd hon gyda Chwarae Teg a fydd yn gwobrwyo busnesau sy’n cyfrannu tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Mae’n rhan bwysig iawn o fod yn fusnes cyfrifol. Yn ogystal â bod o fudd mawr i weithwyr cyflogedig, mae’n cynnig manteision busnes sylweddol.”

5 Mawrth 2012 yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlu.  30 Mawrth 2012 yw’r dyddiad cau estynedig ar gyfer ceisiadau ar gyfer y Wobr Sefydliad Hyblyg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.bitc.org.uk/wales/what_we_do/awards/index.html


Cliciwch i ymuno â

Oeddech chi'n gwybod?

"Cwmnïau gyda maint 30%menywod mewn swyddi uwch yn fwy tebygol o gael ddiwylliant lle mae holl fenywod yn ffynnu"

- Ysgol Fusnes Llundain