Polisi & Ymchwil header image

Chwarae Teg - Polisi & Ymchwil

Polisi da yn ysbrydoli arferion gwaith gwych

Mae ein cyngor arbenigol yn helpu'r broses o lunio penderfyniadau ac yn ysbrydoli arferion gwaith mwy effeithiol mewn ystod o feysydd polisi.

Mae polisi ac ymchwil, i Chwarae Teg, yn golygu canfod atebion ym maes yr economi ac ar gyfer y bobl sy'n gweithio yn y maes hwnnw. Mae gennym hanes cydnabyddedig o ddarparu polisi ac ymchwil arloesol i gefnogi amcanion Chwarae Teg, ein mudiadau partner a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae ein cyngor arbenigol yn helpu'r broses o lunio penderfyniadau ac yn ysbrydoli arferion gwaith mwy effeithiol mewn ystod o feysydd polisi, gan gynnwys:

  • Cydbwyso bywyd a gwaith a gweithio hyblyg
  • Menter
  • Cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Addysg, dysgu a sgiliau
  • Gofal
  • Cynhwysiad digidol

Yma, gallwch weld copïau o'n hymatebion i ymgynghoriadau a lincs defnyddiol.

Gweithio ynghyd

Cyfathrebu llwyddiannus a rhannu arbenigedd yw'r allwedd i sicrhau bod ein hymchwil yn parhau'n ddeinamig ac effeithiol. Anogir ein holl aelodau a chyfranogwyr mewn prosiectau i gyfrannu'n weithredol at ein gwaith ymchwil a'n prosesau creu polisïau. Os hoffech chi wybod mwy, neu archwilio opsiynau ar gyfer ymchwil bellach, cysylltwch â ni yn post@chwaraeteg.com


Cliciwch i ymuno â

Ymweld a safwe Agile Nation

Agile Nation

Oeddech chi'n gwybod?

"Mae menywod sydd â phlant o dan 11 oed yn 45% yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig o gymharu â dynion, sy'n costio i'r economi hyd at £ 23bn"

- adolygiad Cydraddoldeb y DU 2007