rhwydwaith  header image

Rhwydweithiau  

Mae Chwarae Teg yn hwyluso ac yn cymryd rhan mewn 5 Rhwydwaith ledled Cymru. Mae’r Rhwydweithiau’n ein helpu ni a’n haelodau i gael y newyddion diweddaraf ar y materion sy’n effeithio ar fenywod heddiw. Mae’r rhain yn amrywio o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i bolisi economaidd a phopeth rhwng y ddau a all effeithio ar fenywod yng Nghymru. Credwn fod y Rhwydweithiau’n rhan annatod o’r ffordd rydym ni’n gweithio, gan ein helpu i rannu gwybodaeth ac arfer da tra’n dysgu ar yr un pryd.

 

Rhwydweithiau Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith

Mae’r Rhwydweithiau Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Mwy ...

 

Rhwydweithiau Hyfforddiant ac Addysgu

Mae Rhwydweithiau Hyfforddiant ac Addysgu Chwarae Teg yn dwyn ynghyd sefydliadau o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i drafod materion sydd o ddiddordeb i’r sector.
Mwy ...

 

Rhwydweithiau Menywod mewn Rheoli (WIM)

Sefydliad cenedlaethol yw’r Rhwydwaith WIM sy’n mynd i’r afael â’r materion allweddol sy’n effeithio ar fenywod sydd mewn swyddi rheoli heddiw ac yn ceisio darparu cyfleoedd i aelodau.
Mwy ...

 

Fforwm Menywod

Fforwm traws-sector o fenywod yw Fforwm Menywod Chwarae Teg sy’n cwrdd o bryd i’w gilydd i nodi, llunio a datblygu’r materion allweddol sy’n effeithio ar fenywod yn economi Cymru. 
Mwy...

 

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl gyda’r sector.
Mwy ...


Oeddech chi'n gwybod?

"menter i Fenywod yn cyfrannu amcangyfrif o faint £60 biliwn bob blwyddyn ar y gwerth ychwanegol crynswth i economi'r DU"

- Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth