| Tweet |
Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl gyda’r sector.
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yw Cadeirydd y Cyngor. Mae pump ar hugain o gynrychiolwyr o’r sector yn mynychu’r cyfarfodydd, gyda phob un yn cynrychioli maes o ddiddordeb strategol.
Chwarae Teg yw’r cynrychiolydd Cyflogaeth ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Yn rhinwedd y rôl hon, gallwn godi unrhyw fater ynghylch cyflogaeth gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. Os ydych chi’n fudiad gwirfoddol sy’n gweithio yn y maes hwn ac yr hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith, anfonwch e-bost at christine.o'byrne@chwaraeteg.com
Rydym ni ar Facebook: Rhwydwaith Cyflogaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (Cymru)
Neu ymunwch â’n grŵp LinkedIn trwy glicio yma
Oeddech chi'n gwybod?
"Mae menywod yn Half yn fwy tebygol na dynion o gymryd rhan mewn entrepreneuriaeth yn y camau cynnar o gychwyn busnes"
- Monitro Entrepreneuriaeth Byd-eang y DU


