‘Dim ond un gair sydd gen i i ddisgrifio gweithio gyda Chwarae Teg - rhyfeddol.' Steve Williams, Adran Electroneg, Coleg Abertawe
‘Rwy'n ddiolchgar iawn i Chwarae Teg. Roedd cymaint o rwystrau i'w goresgyn, ac maent wedi fy helpu i symud ymlaen, pan oeddwn i'n credu bod hynny'n amhosib.' Dr. Gefei Wu, Prosiect Menter Rhieni Unigol, Penarth
‘Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Chwarae Teg yn anhygoel... cefnogaeth gyson i ni, hyd yn oed yn yr oriau du pan oedden ni'n credu na fydden ni byth yn llwyddo i gyflawni ein nodau.' Sarah Jones, Asiantaeth Dillad Ail Gyfle, Aberystwyth
‘Mae Cydbwyso Bywyd a Gwaith yn meithrin gwell dealltwriaeth rhwng rheolwyr a staff - mae'n esgor ar fwy o gydweithrediad a hyblygrwydd, sydd eu hangen yn aml mewn cwmnïau bach' Ruth Hammer, Madarch Cymreig Barwn Jackson
‘Mae'r staff dan lawer llai o straen, mae gweithio hyblyg yn caniatáu iddynt gael y bywyd y maent yn ei ddymuno, ac mae hynny'n golygu bod y busnes, yn ei gyfanrwydd, ar ei ennill' Meithrinfa Gofal Dydd Tiny Tots, Casnewydd
‘Ar lefel bersonol, mae'r cynllun Cydbwyso Bywyd a Gwaith wedi cael effaith gadarnhaol yn fy myd gwaith ac yn fy mywyd personol. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i weithio o'm cartref ar brydiau, yn enwedig pan fyddaf yn cynhyrchu adroddiadau o fewn amserlen dynn - mae'r ffaith nad oes neb yn torri ar fy nhraws yn golygu bod y gwaith yn cael ei gynhyrchu'n gynt ac rwyf innau dan lawer llai o straen! Mae Cydbwyso Bywyd a Gwaith hefyd yn caniatau i mi weithio o gwmpas y gofynion cynyddol sy'n dod i'm rhan wrth i'm rhieni heneiddio.' John, Gwasanaethau Cymdeithasol, CBS Wrecsam, ar ôl gweithio gyda'n hymgynghorwyr cydbwyso bywyd a gwaith.

Ymweld a safwe Agile Nation
Oeddech chi'n gwybod?
"menter i Fenywod yn cyfrannu amcangyfrif o faint £60 biliwn bob blwyddyn ar y gwerth ychwanegol crynswth i economi'r DU"
- Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth

