Beth mae ein staff yn ei ddweud am fywyd yn Chwarae Teg
Mae Chwarae Teg yn falch iawn o gael ei gydnabod fel Cyflogwr Buddsoddwyr mewn Pobl ac un o’r Cyflogwr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio. Fel rhan o’n hymrwymiad i’n pobl, mae Chwarae Teg yn cynnal arolygon staff rheolaidd er mwyn cael adborth ar sut y gall Chwarae Teg fod yn lle gwell fyth i weithio.
Gofynnwyd i’r staff sut bydden nhw’n disgrifio Chwarae Teg fel cyflogwr. Dyma beth oedd barn ein staff:
Sefydliad gwerthfawr sy’n diwallu angen pendant yng Nghymru.
Mae Chwarae Teg yn sefydliad ardderchog i weithio iddo – mae’n buddsoddi yn ei bobl go iawn.
Sefydliad sydd â synnwyr pendant o ddiben sy’n gwerthfawrogi ei staff ac sy’n lle gwych i weithio.
Rwy’n teimlo bod gen i’r gefnogaeth i wneud fy ngwaith ac rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ddiddorol sydd â doniau amrywiol i wneud rhywbeth gwerth chweil.
Cyflogwr gwych sy’n gwerthfawrogi ei staff, yn arwain trwy esiampl ac sydd yn lle ardderchog i weithio.
Rwy’n falch o ddweud mai Chwarae Teg yw fy nghyflogwr.
Mae Chwarae Teg yn lle ardderchog i weithio, mae yna awyrgylch da. Rwy’n teimlo bod pawb yn mwynhau ei waith ac yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r safonau gorau. Mae yna bobl ardderchog yn gweithio yn Chwarae Teg.
Cyflogwr blaengar, cefnogol sy’n ystyriol o deuluoedd.



