Pam Chwarae Teg?
Ymunodd Chwarae Teg â’r adduned “Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl” yn 2000 ac mae’n parhau i groesawu ceisiadau gan bobl ag anabledd yn ogystal â sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod pobl anabl yn cael triniaeth deg a chyfartal yn ystod eu cyflogaeth.
![]() |
Wrth gytuno i’r adduned mae Chwarae Teg yn gwneud pum ymrwymiad gyda golwg ar recriwtio, cadw staff, hyfforddi, ymgynghori ac ymwybyddiaeth o anabledd. |
Wrth gytuno i’r adduned mae Chwarae Teg yn gwneud pum ymrwymiad gyda golwg ar recriwtio, cadw staff, hyfforddi, ymgynghori ac ymwybyddiaeth o anabledd.
Y pum ymrwymiad yw:
1. Cyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd wag a’u hystyried ar eu galluoedd
2. Trafod gyda gweithwyr anabl, unrhyw bryd ond o leiaf unwaith y flwyddyn, beth y gall y ddwy ochr ei wneud i sicrhau bod gweithwyr anabl yn gallu datblygu a defnyddio’u galluoedd
3. Ymdrechu i’r eithaf pan fydd gweithwyr yn dod yn anabl i sicrhau eu bod yn aros yn y gwaith
4. Gweithredu i sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu’r lefel briodol o ymwybyddiaeth o anabledd sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn gweithio.
5. Adolygu'r pum ymrwymiad yn flynyddol a'r hyn sydd wedi'i gyflawni, cynllunio ffyrdd o wella arnynt a rhoi gwybod i'r gweithwyr a'r Ganolfan Byd Gwaith am y cynnydd sy'n cael ei wneud a chynlluniau i'r dyfodol
![]() |
Roedd yn bleser gan Chwarae Teg i ennill gwobr Teuluoedd sy’n Gweithio ar gyfer Busnes Bach a Chanolig Gorau 2010. Hefyd mae Chwarae Teg nawr wedi ei rhestri fel un o’r deg cyflogwr uchaf yn y DU, ochr yn ochr â PricewaterhouseCoopers LLP, Centrica Plc a Deutsche Bank. |
Cyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy’n Gweithio
Rhestr & gwobrau a-y
Cydnabod cyflogwyr sy’n gwneud y mwyaf er mwyn cefnogi eu rheini a’u gofalwyr sy’n gweithio
Mae’r wobr Teuluoedd sy’n Gweithio yn cydnabod Chwarae Teg fel Cyflogwr Gorau sy’n hyrwyddo gweithio sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n darparu’r gefnogaeth ymarferol, emosiynol a diwylliannol gorau ar gyfer menywod, dynion a gofalwyr sy’n gweithio.
|
Mae’n anrhydedd gan Chwarae Teg dderbyn y safon Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae hyn yn golygu fod Chwarae Teg bellach yn cael eu cydnabod fel sefydliad sy’n ceisio gwella eu busnes trwy reolaeth gadarnhaol a datblygu ein pobl. |
Gwnaeth ein Haseswr sylw ein bod yn “…rhoi llawer o ymdrech mewn i ymarfer yr hyn yr ydym yn ei bregethu a heb amheuaeth bod y mwyafrif o’n pobl yn cyflawni lefelau uchel o fodlonrwydd yn y swydd”.






